Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 29 Mehefin 2017

Amser: 09. - 11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4219


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru

Alan Brace, Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Sian Thomas (Clerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Dr Paul Worthington (Ymchwilydd)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2       Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2017-18 – Sesiwn graffu ariannol canol blwyddyn - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

2.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn amlinellu'r cynnydd a wnaed o ran y cynlluniau peilot ynghylch y rhaglen ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal sydd ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

 

3       Papurau i’w nodi

3.1   Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - gwybodaeth ychwanegol gan Gydffederasiwn GIG Cymru

3.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gydffederasiwn y GIG.

 

3.2   Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â chraffu ar y gyllideb ddrafft

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar y gyllideb ddrafft.

 

3.3   Ymchwiliad i ofal sylfaenol - gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

3.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfodydd ar 5 Gorffennaf a 13 Gorffennaf.

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

5       Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2017-18 - Sesiwn graffu ariannol canol blwyddyn  – trafod y dystiolaeth.

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion.